|
CROESO i wefan swyddogol Easigrip Ltd cwmni syn gwneud
rhwymyn tiwb elastig o safon.
Maer rhwymyn, sydd ar gael mewn sawl gwahanol faint, yn ddelfrydol
os bydd rhywun yn cael ysigiad, straen, neu ar gyfer cynnal cymal neu
gadw dresin yn ei le.
Rydym yn allforior rhwymyn i 12 o wledydd dramor ac fe allwn drefnu
i allforion cynnyrch.
Mae Easigrip yn cael ei wneud yn ôl safonau Pharmacopoeia Prydain,
ac yn gotwm pur 100% gyda haen o rwber wedi'i orchuddio'n ymblethu drwyddo.
Does dim angen na phinnau na thâp.
Mae Easigrip - syn debyg i Tubigrip® - yn cael ei ffafrio
gan lawer o bobl broffesiynol yn y maes meddygol ac fe allwch ei archebu
ym mhob fferyllfa yn y DU.
Maer busnes bach teuluol hwn yn darparu gwasanaeth or radd
flaenaf i aelodaur cyhoedd, pobl broffesiynol ym maes iechyd,
dosbarthwyr tramor a chyfanwerthwyr.
Ers ei lansio ym 1999, mae llawer o grwpiau ac ymddiriedolaethau gofal
sylfaenol yn y DU wedi bod yn awyddus i gynnwys Easigrip yn eu fferyllfeydd,
gan ei fod yn cynnig dewis arall cost-effeithiol ac am ei fod yn gwneud
ei waith yn rhagorol ym maes triniaeth glinigol. Hefyd, mae pobl broffesiynol
yn y byd meddygol ledled y DU bellach yn rhoir cynnyrch ar bresgripsiwn.
Or diwedd mae brand arall o Rwymyn Tiwb Lastig ar gael
syn gwneud ei waith yn rhagorol.
I weld ein manylion cyswllt, cliciwch yma
Easigrip:
y cynnyrch
Mae Rhwymyn Tiwb Lastig EASIGRIP yn ddelfrydol ar gyfer ysigiad, straen
ac i roi cynhaliaeth. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gynnal cymalau wrth
wneud chwaraeon.
Hefyd, gellir defnyddio'r rhwymyn hyblyg hwn, sydd wedii wneud
o gotwm pur 100%, i ddal dresin yn ei le.
Mae ar gael mewn sawl gwahanol faint sy'n ei wneud yn addas ar gyfer
y migwrn/y ffêr, y ben-glin ar arddwrn yn ogystal âr
glun ar torso.
Gallwch archebu'r rhwymyn mewn sawl gwahanol hyd - 0.5m, 1m a 10m.
I ddewis y maint cywir ar gyfer yr Easigrip, mesurwch y goes neur
fraich ar ei rhan lletaf a chyfeiriwch at y tabl meintiau isod.

Pam Easigrip?
Dim angen na phinnau na thâp
Cynnig gwarchodaeth gyfforddus
Cynnal breichiau a choesau
Delfrydol ar gyfer ysigiad
Meddal ond eton gryf
Ffition glos, ond hawdd iw osod
Gellir ei olchi
Safon uchel am bris rhesymol
I weld ein manylion cyswllt, cliciwch yma
|